Mae’n bosib y gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r eiddo perffaith – mae amrywiaeth o eiddo ar gael yn y pum Canol Tref.
Archwiliwch ein casgliad o siopau gwag sy'n gweithredu fel cynfas gwag ar gyfer eich gweledigaeth.
Cysylltwch â’r Tîm Adfywio a all eich helpu gyda grantiau busnes, benthyciadau Canol y Dref a chymorth ariannol arall.
Ymunwch â chymuned sy’n croesawu busnesau newydd ond hefyd sy’n eu cefnogi’n frwd. Byddwch yn rhan o guriad calon ein tref.
Darganfyddwch y rhaglenni cymorth economaidd amrywiol, grantiau, ac adnoddau sydd ar gael i fusnesau yng Nghanol Trefi Glynebwy, Blaenau, Brynmawr, Tredegar ac Abertyleri.
Gall manteisio ar fenthyciad di-log Canol y Dref fod o fudd i berchnogion eiddo a busnesau lleol, gan gyfrannu at fywiogrwydd a thwf Canol y Dref.
Mae benthyciadau di-log ar gael ar gyfer eiddo gwag masnachol neu eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol yng Nghanol y Dref. Mae benthyciadau yn amodol ar asesiad fforddiadwyedd, cynllun busnes cadarn a thâl cyfreithiol angenrheidiol gan y Cyngor.
Darperir cefnogaeth ac arweiniad i’ch helpu gyda’r broses.
Cysylltwch â’r Tîm Prosiectau Adfywio a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r tenant perffaith.
E-bost: Tîm Prosiectau Adfywio
Rhif ffôn: 07790 545307 neu 07580 858576
Gwefan: blaenau-gwent.gov.uk