card_image

 

Ydych chi’n fusnes newydd sy’n chwilio am eiddo yng Nghanol y Dref?

Mae’n bosib y gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r eiddo perffaith – mae amrywiaeth o eiddo ar gael yn y pum Canol Tref.

Archwiliwch ein casgliad o siopau gwag sy'n gweithredu fel cynfas gwag ar gyfer eich gweledigaeth.

Cysylltwch â’r Tîm Adfywio a all eich helpu gyda grantiau busnes, benthyciadau Canol y Dref a chymorth ariannol arall.

Ymunwch â chymuned sy’n croesawu busnesau newydd ond hefyd sy’n eu cefnogi’n frwd. Byddwch yn rhan o guriad calon ein tref.

Darganfyddwch y rhaglenni cymorth economaidd amrywiol, grantiau, ac adnoddau sydd ar gael i fusnesau yng Nghanol Trefi Glynebwy, Blaenau, Brynmawr, Tredegar ac Abertyleri.

 

Ydych chi'n fusnes sy'n chwilio am eiddo gwag?

Cliciwch yma i chwilio.

 

Ydych chi’n fusnes sy’n chwilio am fenthyciad eiddo Canol y Dref?

Gall manteisio ar fenthyciad di-log Canol y Dref fod o fudd i berchnogion eiddo a busnesau lleol, gan gyfrannu at fywiogrwydd a thwf Canol y Dref.

Mae benthyciadau di-log ar gael ar gyfer eiddo gwag masnachol neu eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol yng Nghanol y Dref. Mae benthyciadau yn amodol ar asesiad fforddiadwyedd, cynllun busnes cadarn a thâl cyfreithiol angenrheidiol gan y Cyngor.

Darperir cefnogaeth ac arweiniad i’ch helpu gyda’r broses.

 

A oes gennych eiddo gwag yng Nghanol y Dref yn aros am fusnes newydd i’w lenwi?

Cysylltwch â’r Tîm Prosiectau Adfywio a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r tenant perffaith.

 

Cysylltwch â’r Tîm Prosiectau Adfywio

E-bost: Tîm Prosiectau Adfywio

Rhif ffôn: 07790 545307 neu 07580 858576

Gwefan: blaenau-gwent.gov.uk